Roedd Mecsico yn gartref i wareiddiad y Maya rhwng yr 2g a'r 13g. Yn y cyfnod rhwng yr 8g a'r 12g flodeuodd diwylliant y Toltec. Olynwyd y gwareiddiadau cynnar hyn gan wareiddiad yr Asteciaid gyda'u prifddinas yn Tenochtitlán (safle Dinas Mecsico) heddiw.
Yn 1521 goresgynnwyd yr Asteciaid gan Hernán Cortés a'r Sbaenwyr a daeth Mecsico yn rhan o Sbaen Newydd.
Dechreuodd yr ymgyrch am annibyniaeth ar Sbaen yn 1810. Erbyn 1821 roedd Mecsico yn wlad annibynnol. Roedd yn diriogaeth fwy sylweddol na'r wlad bresennol, yn cynnwys rhannau o dde'r Unol Daleithiau fel Texas a Califfornia. Arweinydd pwysicaf y wlad oedd Santa Anna. Collwyd y rhan fwyaf o'r tir hwnnw i'r Unol Daleithiau newydd, yn arbennig ar ôl Rhyfel Mecsico (1846-1848).
Rheolwyd y wlad gan Maximilian, Archddug Awstria am gyfnod byr (1864-1867), ond cafodd ei ladd yn 1867 a dilynodd cyfnod ansefydlog a arweiniodd at Chwyldro Mecsico pan ddiorseddwyd Porfirio Diaz gan Francisco Madero. Dyma gyfnod Zapata a Pancho Villa.
Yn 1917 datganwyd gweriniaeth Mecsico.
Ers 2006 ymladdwyd Rhyfel Cyffuriau Mecsico rhwng y llywodraeth a'r cartelau cyffuriau.